Beth Allaf i Ei ddisgwyl gan fy eiriolwr?
Mae eiriolwyr yn annibynnol ac ni fyddant yn barnu, byddant yn gwrando
ar eich pryderon ac yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a’ch
dewisiadau. Gallant eich cefnogi i siarad drosoch eich hun, neu fe allant
siarad ar eich rhan. Fe wnaiff yr eiriolwr siarad â chi bob amser cyn
gweithredu, felly fe allwch chi benderfynu beth sydd i ddigwydd. Gall
eiriolwr eich cynorthwyo i gael gwybodaeth gan wasanaethau eraill ac fe all
fynd gyda chi i gyfarfodydd, os dymunwch chi. Gallwch ddisgwyl i’ch eiriolwr
fod yn ddibynadwy ac i wneud yr hyn y byddwch chi’n cytuno iddyn nhw ei wneud.
Pa wybodaeth sy’n rhaid i mi ei roi?
Yn eich cyfarfod cyntaf gyda’r eiriolwr, byddant yn cymryd rhai manylion
cyswllt sylfaenol gennych chi fel eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn
cyswllt. Efallai y bydd angen i’r eiriolwr ofyn i chi am wybodaeth arall,
ond bydd hynny’n ddibynnol ar eich ymholiad. Fe all hefyd ofyn am enwau a
rhifau ffôn unrhyw gysylltiadau perthnasol eraill sydd gennych a allai fod yn
ddefnyddiol i ni wrth ddelio â’ch pryderon. Mae’n bwysig cofio nad oes
raid i chi roi unrhyw wybodaeth i ni yn groes i’ch ewyllys, er y gall hynny
effeithio ar y gwaith y gallwn ei wneud. Bydd yr eiriolwr yn gofyn i chi
arwyddo llythyr i ddweud eich bod wedi gofyn i’r eiriolwr weithredu ar eich
rhan, nid yw hyn yn golygu y gall yr eiriolwr weithredu heb
eich caniatâd, ni wnaiff yr eiriolwr ddim heb ofyn i chi yn gyntaf.
Beth sy’n digwydd i’m gwybodaeth i?
Fe gedwir unrhyw wybodaeth a rowch i ni’n ddiogel dan glo mewn cabinet
ffeilio yn ein swyddfa. Ni chedwir unrhyw fanylion personol amdanoch chi
ar ein cyfrifiaduron. Mae CADMHAS yn cadw ei gofnodion i gyd yn unol â’r
canllawiau a roddwyd i ni dan Ddeddf Diogelu Data (1998).
Pan fyddwn wedi cwblhau ein gwaith gyda chi fe ofynnwn i chi beth hoffech chi i ni ei wneud â’r wybodaeth a gasglwyd gennym. Fe allwn un ai roi’r wybodaeth i gyd i chi i’w gadw, neu fe allwch ddewis gofyn i ni ddinistrio’r wybodaeth sydd gennym ynglŷn â chi i gyd, neu fe all CADMHAS gadw eich cofnodion am gyfnod o flwyddyn yn unig, ac yna caiff yr holl gofnodion sy’n ymwneud â chi eu dinistrio.
Pan fyddwn wedi cwblhau ein gwaith gyda chi fe ofynnwn i chi beth hoffech chi i ni ei wneud â’r wybodaeth a gasglwyd gennym. Fe allwn un ai roi’r wybodaeth i gyd i chi i’w gadw, neu fe allwch ddewis gofyn i ni ddinistrio’r wybodaeth sydd gennym ynglŷn â chi i gyd, neu fe all CADMHAS gadw eich cofnodion am gyfnod o flwyddyn yn unig, ac yna caiff yr holl gofnodion sy’n ymwneud â chi eu dinistrio.
Beth allaf i ei wneud os byddaf yn anhapus gyda’r eiriolwr?
Lle bynnag y bo hynny’n bosib bydd rheolwr gwasanaeth CADMHAS yn ceisio
eich cynorthwyo i ddatrys unrhyw anawsterau gyda’ch eiriolwr. Os mai’r
rheolwr gwasanaeth yw’r eiriolwr, fe fydd cadeirydd y pwyllgor rheoli’n cynnig
cefnogaeth i chi i ddatrys y broblem. Os na fydd hyn yn bosib fe all
CADMHAS gynnig eiriolwr gwahanol i chi, os bydd yna eiriolwr addas arall ar
gael. Mewn amgylchiadau lle byddwch am wneud cwyn swyddogol bydd y weithdrefn
ganlynol yn gymwys:
amlinellwch y gŵyn, yn ysgrifenedig fyddai orau, i reolwr gwasanaeth
CADMHAS. Os bydd y gŵyn yn ymwneud â’r rheolwr gwasanaeth ysgrifennwch at
Gadeirydd pwyllgor rheoli CADMHAS.
fe wnaiff y Rheolwr Gwasanaeth neu’r Cadeirydd fel sy’n briodol,
gyfarfod â’r ddau barti ar wahân, ac os yn bosib, byddant yn ceisio datrys y
broblem.
Os bydd i hyn fethu, neu os yw’r gŵyn o natur ddifrifol iawn, bydd y
Rheolwr Gwasanaeth neu’r cadeirydd fel sy’n briodol, yn cychwyn y weithdrefn
gwynion ffurfiol:
Mae’r weithdrefn gwynion lawn ar gael
ar gais