Amdanom Ni

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Conwy a Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl y mae’n eu cefnogi, mae o’u plaid nhw ac yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth eiriolaeth effeithlon ac effeithiol i’w holl gleientiaid.
Nodau ac Amcanion
  • I sicrhau fod gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gyrchiad i wasanaeth eiriolaeth annibynnol, gyfrinachol am ddim.
  • I ddiogelu hawliau’r unigolion.
  • I sicrhau fod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael llais a gwrandawiad a gweithredu ar hynny.
Datganiad o Fwriad
Bwriad CADMHAS yw:
  • rhoi llais ategol i ddefnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl
  • hyrwyddo annibyniaeth a grymuso
  • sicrhau bod unigolion yn gallu herio gwahaniaethu, triniaeth annheg a
    diogelu eu hawliau fel unigolion
  • cymryd arweiniad gan ddefnyddwyr y gwasanaeth
Gwerthoedd CADMHAS
Mae CADMHAS yn cymhwyso’r gwerthoedd craidd canlynol ym mhob un o’i fentrau:
  • ANSAWDD – mae CADMHAS yn ceisio sicrhau ansawdd fel sefydliad, fel cyflogwr ac fel darparwr gwasanaeth
  • GONESTRWYDD – bod yn agored ac yn onest yn ein holl ryngweithio
  • YMREOLAETH - yr hawl i hunanlywodraeth
Cyfrinachedd
Cred CADMHAS fod gan bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth yr hawl i gyfrinachedd.  Mae gennym systemau yn eu lle i sicrhau fod pob gwybodaeth sydd o natur gyfrinachol yn cael ei barchu a’i ddiogelu.
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn torri’r cytundeb cyfrinachedd â chi.
Yr eithriadau hyn yw: os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ynglŷn â phlentyn yn cael ei gam-drin; os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni sy’n gwneud i ni gredu bod eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl, neu os rhowch chi wybodaeth i ni ynglŷn â gweithred o derfysgaeth.   Yn yr amgylchiadau hyn fe fyddem yn eich hysbysu o’r datgeliad ac yn ceisio cael eich cydweithrediad.

Mae'r fideo isod yn rhan on gwaith o weithio hefo'r bobl yr ydym yn ei gefnogi.  Ynddo yr ydym yn gofyn beth mae nhw yn ei ffeddwl sy'n gwneud eiriolydd a gwasanaeth eiriolaeth dda.







Advocacy in Conwy and Denbighshire




Powered by WebRing.