Cwestiynau Cyffredinol

Beth Allaf i Ei ddisgwyl gan fy eiriolwr?
Mae eiriolwyr yn annibynnol ac ni fyddant yn barnu, byddant yn gwrando ar eich pryderon ac yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a’ch dewisiadau.  Gallant eich cefnogi i siarad drosoch eich hun, neu fe allant siarad ar eich rhan.  Fe wnaiff yr eiriolwr siarad â chi bob amser cyn gweithredu, felly fe allwch chi benderfynu beth sydd i ddigwydd.  Gall eiriolwr eich cynorthwyo i gael gwybodaeth gan wasanaethau eraill ac fe all fynd gyda chi i gyfarfodydd, os dymunwch chi.  Gallwch ddisgwyl i’ch eiriolwr fod yn ddibynadwy ac i wneud yr hyn y byddwch chi’n cytuno iddyn nhw ei wneud.
Pa wybodaeth sy’n rhaid  i mi ei roi?
Yn eich cyfarfod cyntaf gyda’r eiriolwr, byddant yn cymryd rhai manylion cyswllt sylfaenol gennych chi fel eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn cyswllt.  Efallai y bydd angen i’r eiriolwr ofyn i chi am wybodaeth arall, ond bydd hynny’n ddibynnol ar eich ymholiad.  Fe all hefyd ofyn am enwau a rhifau ffôn unrhyw gysylltiadau perthnasol eraill sydd gennych a allai fod yn ddefnyddiol i ni wrth ddelio â’ch pryderon.  Mae’n bwysig cofio nad oes raid i chi roi unrhyw wybodaeth i ni yn groes i’ch ewyllys, er y gall hynny effeithio ar y gwaith y gallwn ei wneud.  Bydd yr eiriolwr yn gofyn i chi arwyddo llythyr i ddweud eich bod wedi gofyn i’r eiriolwr weithredu ar eich rhan, nid yw hyn yn golygu y gall yr eiriolwr weithredu heb eich caniatâd, ni wnaiff yr eiriolwr ddim heb ofyn i chi yn gyntaf.
Beth sy’n digwydd i’m gwybodaeth i?
Fe gedwir unrhyw wybodaeth a rowch i ni’n ddiogel dan glo mewn cabinet ffeilio yn ein swyddfa.  Ni chedwir unrhyw fanylion personol amdanoch chi ar ein cyfrifiaduron.  Mae CADMHAS yn cadw ei gofnodion i gyd yn unol â’r canllawiau a roddwyd i ni dan Ddeddf Diogelu Data (1998).
Pan fyddwn wedi cwblhau ein gwaith gyda chi fe ofynnwn i chi beth hoffech chi i ni ei wneud â’r wybodaeth a gasglwyd gennym.  Fe allwn un ai roi’r wybodaeth i gyd i chi i’w gadw, neu fe allwch ddewis gofyn i ni ddinistrio’r wybodaeth sydd gennym ynglŷn â chi i gyd, neu fe all CADMHAS gadw eich cofnodion am gyfnod o flwyddyn yn unig, ac yna caiff yr holl gofnodion sy’n ymwneud â chi eu dinistrio.
Beth allaf i ei wneud os byddaf yn anhapus gyda’r eiriolwr?
Lle bynnag y bo hynny’n bosib bydd rheolwr gwasanaeth CADMHAS yn ceisio eich cynorthwyo i ddatrys unrhyw anawsterau gyda’ch eiriolwr.  Os mai’r rheolwr gwasanaeth yw’r eiriolwr, fe fydd cadeirydd y pwyllgor rheoli’n cynnig cefnogaeth i chi i ddatrys y broblem.  Os na fydd hyn yn bosib fe all CADMHAS gynnig eiriolwr gwahanol i chi, os bydd yna eiriolwr addas arall ar gael. Mewn amgylchiadau lle byddwch am wneud cwyn swyddogol bydd y weithdrefn ganlynol yn gymwys:
amlinellwch y gŵyn, yn ysgrifenedig fyddai orau, i reolwr gwasanaeth CADMHAS.  Os bydd y gŵyn yn ymwneud â’r rheolwr gwasanaeth ysgrifennwch at Gadeirydd pwyllgor rheoli CADMHAS.
fe wnaiff y Rheolwr Gwasanaeth neu’r Cadeirydd fel sy’n briodol, gyfarfod â’r ddau barti ar wahân, ac os yn bosib, byddant yn ceisio datrys y broblem.
Os bydd i hyn fethu, neu os yw’r gŵyn o natur ddifrifol iawn, bydd y Rheolwr Gwasanaeth neu’r cadeirydd fel sy’n briodol, yn cychwyn y weithdrefn gwynion ffurfiol:
Mae’r weithdrefn gwynion lawn ar gael ar gais

Mae CADMHAS yr un mor hapus i gael gwybod os ydych chi’n hapus gyda’n gwasanaeth.  Fe groesewir unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu ganmoliaeth.
Advocacy in Conwy and Denbighshire