Eiriolaeth Gymunedol

Beth yw Eiriolaeth?
“ Golyga Eiriolaeth weithredu i helpu pobl i ddweud yr hyn a fynnant, sicrhau eu hawliau, cynrychioli eu buddiannau a chael y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.”  Action for Advocacy
Gall ein heiriolwyr:
  • Wrando ar eich pryderon
  • Roi gwybodaeth i chi am eich hawliau, cyfraith iechyd meddwl, buddiannau, materion tai, rheoli dyled a llawer mwy
  • Eich helpu i gwyno os byddwch yn anhapus am unrhyw ran o’ch gofal neu eich triniaeth
  • Eich helpu i gyrchu asiantaethau cyngor ac arweiniad fel hawliau lles a Chyngor Ar Bopeth
  • Eich helpu i ystyried pa opsiynau sydd gennych chi ac i wneud penderfyniadau
Mae ein heiriolwyr ar gael mewn gwahanol leoliadau yn y ddwy sir drwy gydol yr wythnos.  Ffoniwch eich swyddfa ar 01745 813999 i drefnu apwyntiad i weld eiriolwr mewn lleoliad sy’n agos atoch chi.
Mae’r gwasanaeth eirioli hwn ar eich cyfer chi, ni wnawn unrhyw beth na fyddwch chi am i ni ei wneud.
Advocacy in Conwy and Denbighshire