Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynol (EIMA)


Mae CADMHAS hefyd yn cynnig Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) i:

  • cleifion preswyl mewn ysbyty ac yn cael eich asesu neu'n derbyn triniaeth am broblem iechyd meddwl tra'r ydych chi yno.
  • pobl sydd wedi ei gadw yn yr ysbyty dan y ddeddf Iechyd Meddwl
  • popl sydd wedi ei gadw dan adran tymor byr
  • gleifion anffurfiol
  • rhai sydd yn cael ei ystyried ar gyfer niwrolawdriniaeth am anhwylder meddyliol neu therapi electrogynhyrfol i rai dan ddeunaw oed
  • rhai sydd yn destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol
  • rai sydd wedi ei rhyddhau'n amodol neu'n destun gwarcheidwaeth
Mae gennych HAWL i gael EIMA a all eich helpu i...
  • gael cymorth a chynrychiolaeth
  • ddeall eich hawliau a'u hymarfer
  • gyrchu gwybodaeth
  • ddeall a fforio opsiynau
  • deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi
  • leisio eich barn
  • baratoi ar gyfer rowndiau ward, apeliadau a chyfarfodydd
  • frwydro yn erbyn gwahaniaethu
  • gwyno am eich gofal a'ch triniaeth
  • wneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal a'ch triniaeth 
Dylech gael eich cynghori o’ch hawl i EIMA gydag asesiad dan y Ddeddf.

Clod neu gwynion

Bydd ein gwasanaeth EIMA yn gwerthfawrogi sylwadau ac arborth y rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Siaradwch a'ch eiriolwr neu ffoniwch y rhif ffon isod i gael gwybod sut y gallwch chi wneud hynny.

Os byddwch angen siarad ag Eiriolwr EIMA ffoniwch ein gwasanaeth ffôn ateb EIMA ar 01745 816501
Advocacy in Conwy and Denbighshire
Advocacy in Conwy and Denbighshire